#

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-0751

Teitl y ddeiseb: Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant a phobl ifanc Cymru drwy gydnabod yn ffurfiol fod unrhyw un sy’n 'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant' yn cam-drin plentyn yn emosiynol. Rydym yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol i leihau’r effaith a gaiff achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ar blant a'u teuluoedd.

Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau a ganlyn:

• Cydnabod bod unrhyw un sy’n ‘Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ yn cam-drin plentyn yn emosiynol ac, wrth ddiffinio’r term, dylid cynnwys y diffiniad a gafwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (paragraff 1) yma https://petition.parliament.uk/petitions/164983).

• Comisiynu ac ariannu hyfforddiant gorfodol i weithwyr proffesiynol gan gynnwys staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a CAFCASS Cymru (ond nid dim ond y rhain), i’w helpu i adnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ac i sicrhau eu bod yn gwybod am y trefniadau sydd ar waith i ddiogelu plant rhag niwed.

• Sefydlu ac ariannu ymgyrch genedlaethol i roi gwybodaeth i blant a'u teuluoedd a’u dysgu am y cysyniad o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant a'r niwed y mae'n ei achosi.

• Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin a’u niweidio drwy eu Dieithrio oddi wrth Riant.                                                       


Cefndir

Fel y nododd y deisebydd, mae Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU wedi disgrifio 'dieithrio oddi wrth riant' fel a ganlyn:

In cases where parents are separated, parental alienation refers to a situation in which one parent (usually the parent with whom the child lives) behaves in a way which creates anxiety in the child, so that it appears the child is opposed to living or spending time with the other parent. 

Galwodd deisebddiweddar ar Lywodraeth y DU i gyflwyno deddf sy'n cydnabod dieithrio rhag rhiant fel trosedd. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd yn credu bod angen deddfwriaeth i droseddoli rhiant sy'n dieithrio plant rhag y rhiant arall gan fod gan y llys y pŵer eisoes i gymryd camau effeithiol:

The family court has a range of powers to deal with cases where alienating behaviour features. A parent who has concerns about such behaviour could make an application to the family court about the arrangements for their child. The Children Act 1989 contains adequate provisions to deal with these concerns and the welfare of the child is the court’s paramount concern in making its decision. Under legislation introduced in 2014, family courts are legally required to presume that the involvement of a parent in the life of the child concerned will further that child’s welfare, unless there is evidence to the contrary.

Caewyd y ddeiseb honno ar 16 Chwefror 2017.

Y ddeddfwriaeth o 2014 y cyfeirir ati yn ymateb Llywodraeth y DU yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014. Mae rhan 2 o'r Ddeddf yn ymwneud â chyfiawnder teuluol ac mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr fel ei gilydd. Mae'n cynnwys nifer o ddarpariaethau sy'n ceisio gwella gweithrediad y system cyfiawnder teuluol, fel yr argymhellwyd gan yr adolygiad cyfiawnder teuluol yn 2011. Mae adran 11 y Ddeddf Plant a Theuluoedd yn ceisio pwysleisio pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng plentyn a'r ddau riant wedi i deulu wahanu, lle bo hynny'n ddiogel ac er lles y plentyn. Mae'n ofynnol i'r llysoedd dybio y bydd cyfraniad y ddau riant yn hybu lles plentyn mewn bywyd, oni bai y gellir dangos na fyddai hyn yn wir. Mae hyn yn golygu unrhyw fath o gysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol, ond nid unrhyw fath o raniad penodol o amser y plentyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i ddeiseb y Cynulliad, mae Llywodraeth Cymru yn nodi yr adolygodd y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol ar gyfer Cymru ei safbwynt ar ddieithrio rhag rhiant ar 28 Mawrth 2017, a’i fod wedi cytuno bod gan y llys teulu ddigon o bwerau eisoes i ymdrin ag achosion lle ceir ymddygiad dieithrio, ac y dylai achosion o ddieithrio barhau i gael eu trin o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r ymateb hefyd yn nodi y gall y llys ofyn i CAFCASS Cymru (y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) baratoi adroddiad lles ar unrhyw faterion sy'n berthnasol i'r plentyn neu'r teulu, a bod gweithwyr proffesiynol CAFCASS Cymru yn cael eu hyfforddi i adnabod y posibilrwydd o elyniaeth na ellir ei datrys mewn achosion o wahanu, a sut y gallai hyn effeithio ar blentyn. 

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol ar gyfer Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

CAFCASS Cymru

Cymerodd Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb am swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru o 1 Ebrill 2005 (nid yw achosion/cyfraith teulu wedi'u datganoli, ond mae swyddogaethau CAFCASS wedi'u datganoli). Caiff CAFCASS ei benodi gan y llysoedd, ond mae'n wasanaeth gwaith cymdeithasol, yn hytrach nag yn wasanaeth cyfreithiol. Ei rôl yw: 

§    diogelu a hyrwyddo lles plant; 

§    rhoi cyngor i'r llys am geisiadau mewn achosion teuluol; 

§    gwneud darpariaeth i blant gael eu cynrychioli mewn achosion o'r fath; 

§    darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i blant a'u teuluoedd.

Defnyddir Rhestr Wirio Asesiad Lles Plant a'r Glasoed (CAWAC) i gynorthwyo ymarferwyr CAFCASS Cymru wrth asesu'r risg emosiynol/seicolegol i blant sy'n dod i gysylltiad â gwrthdaro rhwng rhieni. Mynegwyd rhai pryderon ynghylch a yw CAWAC yn addas at y diben wrth drafod deiseb flaenorol (P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Thadau; caewyd y ddeiseb hon ym mis Chwefror 2016). Mae adroddiad blynyddol diweddaraf CAFCASS Cymru yn datgan ei fod wedi comisiynu gwaith i 'adnewyddu a diweddaru' CAWAC, ac y bydd y gwelliannau a nodwyd yn cael eu cwblhau yn 2016-17.   

Amddiffyn a diogelu plant yng Nghymru - trosolwg

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am amddiffyn plant yng Nghymru. Mae'r system amddiffyn plant yng Nghymru yn debyg i system Lloegr, ond cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gyda'r nod o gryfhau'r trefniadau ar gyfer diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed yng Nghymru. Dilynir yr un trefniadau ag yn Lloegr o hyd i ymdrin â phryderon ynghylch amddiffyn plant sy'n arwain at achos llys.

Sefydlodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 chwe bwrdd rhanbarthol diogelu plant (cyn hynny, roedd bwrdd lleol diogelu plant yn ardal pob awdurdod lleol). Mae'r byrddau rhanbarthol yn cydlynu gwaith lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn sicrhau ei fod yn effeithiol. Mae pob bwrdd rhanbarthol yn cynnwys unrhyw awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu, bwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth y GIG, a darparwr gwasanaethau prawf sydd yn ardal y bwrdd diogelu. Hefyd, sefydlodd y Ddeddf Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i gefnogi'r byrddau diogelu rhanbarthol a monitro'u heffeithiolrwydd.

Mae Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn llywio arfer amddiffyn plant ym mhob un o'r byrddau diogelu plant ar draws Cymru. Maent yn seiliedig ar yr egwyddor bod amddiffyn plant rhag niwed yn gyfrifoldeb i bob unigolyn ac asiantaeth sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd, ac oedolion a allai fod yn risg i blant. Cânt eu goruchwylio gan Grŵp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan, sy'n cynrychioli holl fyrddau diogelu plant Cymru a'u hasiantaethau partner.

Mae Diogelu Plant - Gweithio Gyda'n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004 yn amlinellu sut y dylai sefydliadau ac unigolion gydweithio i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.